Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

 

Tystiolaeth ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Cyflwyniad a chefndir

1.         Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol y wlad, ac mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.  Mae’n ceisio cynrychioli ei haelodau trwy fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â’u blaenoriaethau.  Ar ben hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at faes llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

2.         Mae’r argyfwng dyngarol presennol a’r ffaith bod miliynau o bobl wedi ffoi rhag rhyfeloedd yn Syria a’r gwledydd o’i hamgylch wedi arwain at gynnydd yn nifer y ffoaduriaid a’r rhai sy’n gofyn am loches yn y Deyrnas Gyfunol gan gynnwys Cymru.  Felly, dyma adeg briodol i edrych ar waith sy’n mynd rhagddo ledled y wlad i helpu i gymathu ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn cymunedau lleol a chloriannu’r amryw gynlluniau sy’n cyfeirio’r gwaith hwnnw.

 

3.         Bydd Rhaglen yr Ailgartrefu Syriaid ar waith dros bum mlynedd er lles 20,000 o ffoaduriaid a bydd yn bwysig cadw at yr un lefel o ymrwymiad a chydlyniant i gyflawni nodau’r rhaglen yng Nghymru.  Felly, rhaid gofalu ein bod yn pennu ffordd hirdymor o gymathu a chynorthwyo ffoaduriaid i’w galluogi nhw i gael eu traed tanynt a dechrau cyfrannu at ein cymdeithas ni.

 

4.         Mae’n bwysig cydnabod mai dim ond un o’r mentrau presennol yw’r rhaglen honno.  Er mai prif flaenoriaeth y Swyddfa Gartref yw hi, mae Llywodraeth San Steffan wedi gofyn i’r awdurdodau lleol gymryd rhan mewn cynlluniau eraill megis:

·         ychwanegu at nifer yr ardaloedd lle y bydd ceiswyr lloches yn cael aros tra bo eu ceisiadau am loches o dan ystyriaeth;

·         cynllun trosglwyddo plant i ardaloedd eraill fel y bydd cydbwysedd o ran gofalu am blant sydd wedi dod ar eu pennau eu hunain i fynnu lloches;

·         cynllun ailgartrefu 3,000 o blant bregus eu sefyllfa o’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ynghyd â’u teuluoedd.

 

5.         Gan fod cymaint o sylw ar raglen yr ailgartrefu, mae pryderon y bydd dau fath o gymorth ar gael i ffoaduriaid.  Ar y cyfan, fydd y rhai sydd yng Nghymru yn barod neu sydd wedi ennill statws ffoadur o ganlyniad i gais llwyddiannus am loches yn y Deyrnas Gyfunol ddim yn cael yr un lefel o gymorth ar gyfer eu hailgartrefu a’u cymathu.  Dylai unrhyw wersi sy’n deillio o’r rhaglen arwain at wasanaethau gwell i’r ffoaduriaid i gyd sydd yng Nghymru.

Cyflymder ac effeithiolrwydd ffordd Llywodraeth Cymru o gartrefu ffoaduriaid trwy Raglen Ailgartrefu Pobl Fregus o Syria Llywodraeth San Steffan

 

6.         Mae awdurdodau lleol Cymru wedi ymateb yn dda i’r cais am gymorth o ran cartrefu ffoaduriaid trwy Raglen yr Ailgartrefu Syriaid am fod pob awdurdod wedi ymrwymo i gymryd rhan ynddo.  Mae disgwyl y bydd pob awdurdod lleol wedi derbyn teuluoedd erbyn diwedd y flwyddyn.  Bydd dros 300 o ffoaduriaid wedi’u hailgartrefu yng Nghymru yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen.

 

7.         Doedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol lawer o brofiad ynglŷn â gweithio gyda ffoaduriaid.  Felly, roedd yn bwysig gofalu y bydden nhw’n derbyn pobl mewn modd trefnus ac effeithiol.  Ymatebodd pob awdurdod yn ôl amserlen fyddai’n briodol iddo a’i bartneriaid.  Er bod rhai wedi symud yn gyflym trwy helpu i ailgartrefu 1,000 o ffoaduriaid cyn diwedd 2015 yn ôl addewid Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, mae eraill wedi pwyllo ychydig wrth sefydlu trefniadau sy’n adlewyrchu cyd-destunau ac amgylchiadau lleol.

 

8.         Cydweithio sydd wrth wraidd Rhaglen yr Ailgartrefu Syriaid yng Nghymru ac, er mai’r awdurdodau lleol sydd wedi arwain y gwaith ym mhob bro a rhanbarth fel y bo’n briodol, mae cyfraniad cyrff iechyd, heddluoedd, y trydydd sector a mudiadau eraill wedi bod yn hanfodol o ran gofalu bod gwasanaethau ar gael pan ddaw’r ffoaduriaid.  Er enghraifft: cofrestru gyda meddygfa, ymrestru plant yn yr ysgol a chofrestru ar gyfer dosbarthiadau dysgu Saesneg.

 

9.         Er bod awdurdodau lleol wedi’u beirniadu am fethu ag ymateb yn brydlon i’r argyfwng, bu rhaid i’r awdurdodau heb lawer o brofiad ofalu y gallen nhw reoli proses yr ailgartrefu yn drefnus.  I wneud hynny, bu angen cydweithio â nifer o bartneriaid er mwyn diwallu anghenion y teuluoedd mewn meysydd megis iechyd neu addysg, nodi llety priodol rhesymol ei bris ger ysgolion a phenodi mudiadau yn y trydydd sector i roi gwasanaethau cofleidio a helpu i ailgartrefu a chymathu teuluoedd.  Felly, rydyn ni o’r farn bod y feirniadaeth yn annheg a bod ffoaduriaid wedi’u derbyn mewn modd esmwyth yn sgîl cynllunio’n dda ar eu cyfer.

 

10.       Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu’r awdurdodau lleol a’u partneriaid nhw i ymateb i’r argyfwng dyngarol yn Syria.  Trwy’r Prif Weinidog, fe ddaeth â’r prif gyrff perthnasol ynghyd fis Medi 2015 i drafod a chydlynu ymateb Cymru.  Ers hynny, mae wedi cynnal Bwrdd Gweithredu Materion Ffoaduriaid o Syria.  Yn ddiweddar, sefydlodd is-bwyllgor i drin a thrafod materion plant sy’n agored i niwed a phlant sydd wedi dod ar eu pennau eu hunain i fynnu lloches.  Mae’r Swyddfa Gartref wedi rheoli Rhaglen yr Ailgartrefu Syriaid yn dda ac roedd wedi cydweithio â’r awdurdodau lleol a’r llywodraethau datganoledig i’w llunio a’i mireinio.  Enghraifft nodedig o’r cyfryw gydweithio yw cytuno ar fframwaith iechyd sy’n pennu rôl gwasanaethau iechyd ynglŷn â helpu awdurdodau lleol Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen trwy wneud yn siŵr y bydd gwasanaethau gofal iechyd priodol ar gael yn ogystal â gwybodaeth am adennill arian.  Mae Partneriaeth Strategol Materion Mewnfudo Cymru wedi cymryd rôl allweddol ynglŷn â helpu awdurdodau i sefydlu eu trefniadau.  Lluniodd becyn cymorth i’r diben hwnnw ac mae’n llywio pwyllgor lledaenu gwybodaeth ac arferion da.  Penododd y bartneriaeth gydlynydd ailgartrefu ffoaduriaid yn ddiweddar fel y bydd un ddolen gyswllt â Rhaglen yr Ailgartrefu Syriaid yng Nghymru.  Fe fydd yn cydlynu dyfodiad y teuluoedd sy’n ymwneud â’r rhaglen.

 

Effeithiolrwydd y cynllun ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches

 

11.       Rydyn ni o’r farn nad yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a’r rhai sy’n gofyn am loches yn ddigon hysbys nac effeithiol ymhlith awdurdodau lleol.  Er y gallai fod yn hysbys i’r rhai sy’n ymwneud â materion perthnasol ac er bod llawer o’i gynnwys yn cael ei drafod, does dim gweithdrefnau sefydlog y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i dynnu sylw awdurdodau/adrannau at y cynllun.  O ganlyniad, efallai na fyddan nhw’n gwybod am yr hyn mae rhaid iddyn nhw ei wneud.

 

12.       Ymatebodd WLGA i’r ymgynghori am y cynllun ac rydyn ni o blaid yr amryw ddeilliannau ym mhob pennod.  Does dim manylion, fodd bynnag, o ran pwy sy’n gyfrifol am y gwaith, pryd mae angen ei gyflawni a sut y bydd gwahanol flaenoriaethau’n cael eu gwireddu.  Bydd yn anodd nodi deilliant neu effaith rhai camau am nad ydyn nhw wedi’u pennu yn ôl meini prawf ymarferoldeb.  Ar ben hynny, mae rhai camau braidd yn eang a rhaid gofyn a ydyn nhw’n berthnasol i gynllun o’r fath.  Er y bydd gweithredu llwyddiannus o gymorth i ffoaduriaid, dylid cymathu’r camau dilynol ym mhrif ffrwd gweithdrefnau fel arferion neu safonau sylfaenol (er enghraifft, rhaid i landlordiaid sy’n cynnig llety i ffoaduriaid ofalu ei fod yn addas i fyw ynddo ac mewn cyflwr da).

 

13.       Dylid cydnabod bod nifer y ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru trwy Raglen yr Ailgartrefu Syriaid wedi cynyddu’n fawr ers paratoi’r cynllun gwreiddiol.  Gan fod bwriad i drosglwyddo plant i rannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol, bydd nifer y plant sydd wedi dod ar eu pennau eu hunain i fynnu lloches wedi codi, hefyd.  Mae’r datblygiadau hynny wedi newid cyd-destun y cynllun ac, felly, bydden ni’n awgrymu bod angen llunio ffordd fwy strategol o gymathu ceiswyr lloches a ffoaduriaid a manteisio ar newidiadau diweddar i ddylanwadu arni.

 

14.       Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae llawer o bleidleiswyr wedi dechrau pryderu am fewnfudwyr, ac fe ddaeth hynny i’r amlwg yn ystod ymgyrchoedd yr Etholiad Cyffredinol a’r refferendwm am Undeb Ewrop.  Mae pryderon am nifer y rhai sy’n dod i’r Deyrnas Gyfunol a’r effaith ar wasanaethau cyhoeddus megis iechyd a thai cymdeithasol, sydd o dan bwysau yn barod.  Mewn rhai ardaloedd, mae hynny wedi arwain at ragor o dyndra, troseddau atgasedd a phrotestiadau yn erbyn dyfodiad ffoaduriaid.  Trwy ddiwygio’r cynllun, byddai modd gofalu ei fod yn adlewyrchu’r cyd-destun a’r anawsterau presennol, a gallai arwain at ffordd fwy cydlynol o gynnwys a chymathu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

 

15.       Yn sgîl llwyddiant y trefniadau cadarn ar gyfer derbyn ac ailgartrefu ffoaduriaid trwy’r rhaglen y Swyddfa Gartref, bydd yn hanfodol helpu ffoaduriaid i gael eu traed tanynt yn ein cymunedau ni.  Dysgu’r iaith leol i ddibenion cyfathrebu a chyd-dynnu, cofrestru plant yn yr ysgol a’r feddygfa leol, ailddechrau addysg i oedolion, mireinio medrau a dod o hyd i swydd yw agweddau allweddol helpu pobl i ymdoddi.  Dylai unrhyw gynllun neu strategaeth gydnabod na fydd modd ymateb i’r angen i dderbyn a chymathu rhagor o geiswyr lloches a ffoaduriaid heb ystyried anghenion ac effeithiau rhagor o fewnfudwyr.  Dylai fod rhagor o bwyslais ar ‘asedion’ ffoaduriaid a mewnfudwyr medrus iawn sy’n awyddus i gyfrannu yn ein cymdeithas.  Er enghraifft, dylid hyrwyddo, cydlynu ac ariannu Fframwaith Tystysgrifau a Chymwysterau Cymru yn well fel y gallai medrau a chymwysterau ffoaduriaid gael eu cydnabod yn ôl safonau gwladol.  Fe fyddai hynny’n effeithio’n sylweddol ar obeithion, incwm, iechyd a theyrngarwch pobl sydd newydd ddod i’r wlad yn ogystal â lleddfu tlodi yn eu plith.  Gallai cynllun strategol ar wedd newydd fynd i’r afael â materion o’r fath ledled Cymru trwy gydblethu â rhaglen Llywodraeth Cymru, ‘Symud Cymru Ymlaen’, a manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd i gynorthwyo ffoaduriaid yn ystod cyfnod cyfredol y Cynulliad.

 

Cymorth ac eiriolaeth sydd ar gael i blant ar eu pennau eu hunain

 

16.       Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru yn dweud pa mor bwysig yw eirioli.  Mae eirioli’n grymuso plant, gan ofalu bod pawb yn parchu eu hawliau ac yn rhoi pob ystyriaeth i’w sylwadau a’u dyheadau wrth ddod i benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.  Mae’n ffordd arall o ddiogelu plant rhag cam-drin, gan ofalu bod cymorth a chefnogaeth ar gael ac y bydd pawb yn gwrando ar eu pryderon ac yn mynd i’r afael â nhw.

 

17.       Mae gan bob awdurdod lleol drefniadau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu ffordd wladol o gynnig eiriolaeth i wella mynediad a chysondeb.  Fel plant a phobl ifanc eraill, dylai plant a ddaeth ar eu pennau eu hunain i fynnu lloches gael mynnu eiriolaeth, hefyd.  Gan fod angen eiriolwyr arbenigol sy’n gyfarwydd â’u hanghenion o achos materion cymhleth eu statws nhw yn fewnfudwyr, yn ogystal â chynghorion cyfreithwyr arbenigol, fe ddylai eiriolwyr wybod prosesau lloches yn dda fel y gallan nhw fod o gymorth i blant.  Felly, mae’n debygol y bydd nifer cynyddol y plant sy’n dod i Gymru ar eu pennau eu hunain i fynnu lloches yn ychwanegu at y galw am y gwasanaethau eirioli – yn arbennig pan fo pobl ifanc yn hel cynghorion cyfreithiol, yn cwestiynu’r statws yn y Deyrnas Gyfunol neu’n gofyn am arian i dalu cyfreithiwr.  Mae’n ansicr pwy sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion o’r fath achos y gallai fod angen gwybodaeth a chymorth arbenigol.  Yn aml, diben yr eirioli fydd gwrthwynebu un o benderfyniadau’r Swyddfa Gartref.

 

Rôl ac effeithiolrwydd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cydlyniant yn ein cymunedau ynglŷn â chymathu ffoaduriaid a cheiswyr lloches

 

18.       Mae cynllun cydlyniant Llywodraeth Cymru yn un uchelgeisiol iawn ynglŷn â helpu i ddatblygu a chynnal cymunedau teg, cadarn a chydlynol ledled y wlad.  Helpu i gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid yw un o’r saith deilliant sydd yn y cynllun, ond mae’i bwysigrwydd wedi cynyddu yn ddiweddar o ganlyniad i’r argyfwng dyngarol wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid ddod i Ewrop.  Nid dim ond ynglŷn â helpu awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer ailgartrefu a chymathu hyn a hyn o ffoaduriaid mewn modd na fydd yn amharu ar gydlyniant cymunedau ond, hefyd, ymateb i’r cynnydd yn nifer y troseddau sy’n ymwneud â chasineb yn sgîl ein refferendwm am adael Undeb Ewrop.  Mae llawer o ddeilliannau’r cynllun yn cydblethu â’i gilydd.  Er enghraifft, i gymathu pobl mewn cymuned, bydd angen i bobl deimlo’n ddiogel yn eu milltir sgwâr, gan gymryd rhan yn y gymuned a chyfrannu ati yn hytrach na byw mewn tlodi a bod mewn perygl o gymryd mantais.  Mae cydlynwyr cymunedau mewn sefyllfa dda i adnabod y cysylltiadau hynny ar draws y deilliannau.  Bydd yn ddefnyddiol cyfeirio at y modd mae cydlyniant cymunedol yn ymwneud â chynlluniau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chynlluniau strategol cydraddoldeb hefyd, gan fod ystyriaethau trawsbynciol yn helpu i ofalu bod materion cydlyniant yn rhan o gynlluniau a strategaethau eraill.

 

19.       Mae cydlynwyr cymunedau wedi cyflawni rôl hanfodol o ran helpu awdurdodau lleol i gynllunio a pharatoi ar gyfer derbyn ac ailgartrefu ffoaduriaid trwy Raglen yr Ailgartrefu Syriaid.  Roedden nhw’n gallu gofalu bod yr awdurdodau lleol a’r rhanbarthau wedi cael y diweddaraf am ddatblygiad y rhaglen – gan gyflwyno unrhyw ymholiadau, pryderon neu awgrymiadau ynglŷn â’i gwella.  Maen nhw wedi lledaenu gwybodaeth am amryw ffyrdd o gynllunio a pharatoi ar gyfer y rhaglen gan gynnwys papurau hysbysu a dogfennau perthnasol eraill i osgoi dyblygu a helpu i hwyluso cysondeb.  Maen nhw wedi rhoi cymorth wrth drefnu i dderbyn ffoaduriaid, hefyd.  Mae’r cydlynwyr hynny wedi parhau i gadw llygad ar unrhyw dyndra allai fod mewn cymunedau gan roi gwybod i gyrff perthnasol am unrhyw gynnydd ynddo a chynnig cynghorion a chymorth am ymgysylltu â chymunedau i’w paratoi ar gyfer dyfodiad ffoaduriaid.  Mae’r awdurdodau lleol a’u partneriaid yn gwerthfawrogi’r rôl honno.  Yn y cyd-destun ehangach, mae cydlynwyr wedi parhau â’r gweithgareddau mae disgwyl iddyn nhw eu cynnal yn ôl y cynllun gan adlewyrchu amgylchiadau lleol a materion a blaenoriaethau perthnasol.  Yn ogystal â chymryd rhan yn Rhaglen yr Ailgartrefu Syriaid, mae cydlynwyr cymunedau yn helpu’r awdurdodau lleol i dderbyn plant bregus eu sefyllfa, hefyd.  Wrth wneud hynny, maen nhw wedi hybu cysylltiadau’r ddwy raglen â’i gilydd a chydweithio â phartneriaid i baratoi ar gyfer nifer o blant.

 

20.       Gan fod cydlynwyr cymunedau’n cyflawni rôl hanfodol o ran helpu awdurdodau lleol a rhanbarthau – nid yn unig ynglŷn â cheiswyr lloches a ffoaduriaid ond ar draws saith deilliant y cynllun, hefyd – mae WLGA yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i barhau â’r grant ar eu cyfer yn 2017/18.